
Cyllid Torfol - Rownd 3
Yn dilyn galwad agored a gymerodd lle ym mis Chwefror, dewiswyd Menter Y Plu fel y grwp cymunedol i dderbyn cymorth gan AGW i dreialu ymgyrch cyllid torfol ar gyfer eu bwriad o brynu ac adnewyddu Tafarn Y Plu yn Llanystumdwy. Oherwydd y galw gan grwpiau/mentrau cymdeithasol am gyngor ynglyn â cyllid torfol, trefnwyd digwyddiad gyda arbenigwr yn y maes ddiwedd mis Mawrth eleni gyda dros ugain yn bresennol o fudiadau a mentrau gwahanol.
Bydd Amcan Cyf ac Aqua Marchnata yn helpu cydlynnu ymgyrch Menter Y Plu drwy weithredu ar strategaeth marchnata a chyfres o ffilmiau.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad gan Aqua Marketing.