Edrych i mewn i gyfleoedd buddsoddi mewnol yn ardal Pen Llŷn
Mae’r prosiect yn ceisio dangos fod yna gyfleoedd buddsoddi hyfyw ar gyfer buddsoddwyr ym Mhen Llŷn er mwyn cefnogi a hybu’r economi leol. Cadw perchnogaeth yn yr ardal leol, a sicrhau bod elw yn cael ei gylchu’n ôl i’r gymuned.
Mae’r prosiect hwn yn awyddus i nodi “cyfleoedd mewnol” ym Mhen Llŷn.
Golygai hyn fod y “gymuned yn buddsoddi ynddi ei hun”, drwy gydweithrediad neu gynlluniau cyfranddaliadau neu unrhyw fecanwaith arall sy’n caniatáu i bobl gronni eu hadnoddau. Mae hyn yn cadw perchnogaeth yn yr ardal leol, ac yn sicrhau bod elw yn cael ei gylchu’n ôl i’r gymuned.
Comisiynwyd adroddiad i edrych i mewn i ddarganfod ac adnabod cyfleoedd buddsoddi mewnol a fyddai’n cynorthwyo unigolion, grwpiau a busnesau gadw perchnogaeth yn yr ardal leol a sicrhau bod yr elw yn cael ei roi’n ôl yn yr economi leol.