Creu Gofod

Cydweithio efo cymunedau yng Ngwynedd er mwyn treialu a dysgu am fodelau o berchnogaeth gwasanaethau cyhoeddus

Mae disgwyl cynyddol yn ddiweddar ar gymunedau i gymryd cyfrifoldeb am asedau neu wasanaethau lleol yn sgil toriadau i’r pwrs cyhoeddus. Yn sgil yr uchod mae Arloesi bellach yn  cydweithio gyda cymunedau yng Ngwynedd er mwyn treialu a dysgu am fodelau gwahanol o drosglwyddo gwasanaethau i drigolion lleol.

 

Mae nifer o gymunedau yng Ngwynedd (e.e. Dyffryn Ogwen, Nefyn & Llanymstumdwy) yn wynebu colli gwasanaethau megis y llyfrgelloedd ac amgueddfa Lloyd George onibai fod y gymuned yn perchnogi’r adeiladau/gwasanaethau hynny. Er mwyn sicrhu cynaldwyedd yr asedau neu wasanaethau hynny mae’n dod yn fwyfwy amlwg y bod angen i gymunedau allu adnbod ffrydiau incwm ychwanegol i’w cynnal yn yr hir dymor.

 

Nod y prosiect oedd i beilota cyfres o wasanaethau newydd er mwyn adnabod ffrydiau incwm posib i gymunedau. Fel gyda phrosiectu LEADER eraill rhoddir blaenoriaeth i weithio gyda nifer bychan o gymunedau gan beilota gwahanol ddulliau a syniadau a’u rhannu gyda cymunedau eraill Gwynedd.

 

Yng Ngwynedd awgrymir gweithio yn gychwynol gyda’r 6 cymuned a ymgeiswyd i fod yn rhan o’r alwad agored – Dyffryn Ogwen, Llanystumdwy, Bala, Bermo, Blaenau Ffestiniog a Nefyn.

 

Mae’r prosiect wedi cynnwys y canlynol:

 

  1. 1. Datblygu ‘bwydlen’ cychwynnol o wasanaethau y gellir eu darparu yn y cymunedau. Bydd y gwasanaethau yn disgyn i fewn i un o’r tri categori canlynol:-
    a) lesu peiriannau e.e. peiriant  te/coffi neu  “vending machine”
  2. b) cynnal sesiynau (2-3awr) o fewn meysydd gwahanol (e.e. digidol)
  3. c) cynnig gwsanaethau newydd megis ‘library of things’ neu ‘repir cafe’.

Bydd y fwydlen gychwynnol yn fodd o adnabod y math o wasanaethau sy’n bosib o fewn remit LEADER.

Bydd cyfle i’r cymunedau ddewis 2 syniad oddi ar y fwydlen hon neu rhoddir gwahoddiad iddynt gynnig syniadau newydd, a chyd weithio gyda staff Arloesi i sicrhau eu bod yn weithredol bosib. Bydd pob ymdrech yn mynd i sicrhau fod gwasanethau gwahanol yn cael eu peilota ym mhob un o’r cymunedau.

  1. 2. Cydlynu a chynnal cyfres o sesiynau / peilota gweithgareddau ymhob cymuned

 

  1. 3. Gwaith Ymchwil Marchnad – Bydd disgwyl i’r cymunedau ymgymryd a gwaith ymchwil marchnad fel rhan o’r peilot er mwyn casgalu data ynglyn a’r canlynol (bydd cytundeb yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau ymrwymiad y gymuned i’r gwaith):-niferoedd fydd yn mynychu neu ddefnyddio’r gwasanaeth
    -ffioedd rheymol i godi am y gwasanaeth
    -ydi’r lleoliad yn addas ayyb.Nod y gwaith ymchwil fyddai adnbod os yw’r gwasanaethau beilotir yn opsiwn ar gyfer denu incwm ychwnegol yn y tymor canolig / hir dymor.
  2. 4. Hyrwyddo

 

Caiff y holl weithgareddau eu ffilmio, a bydd yr holl waith ffilmio yn ogystal a’r gwaith ymchwil farchnad ar gael i gymunedau eraill o fewn y Sir, a thu hwnt, er mwyn ystyried ffrydiau incwm ychwanegol / gwahanol ac arloesol.

 

  1. 5. Digwyddiad rhannu gwybodaethCynhelir digwyddidad ar ddiwedd oes y prosiect i rannu gwybodaeth, llwyddiannau a’r gwersi a ddysgwyd gyda chymunedau a rhanddeiliad perthnasol eraill o fewn y Sir.

Fideos

AGW - Creu Gofod -

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU