Co-op Caws

Prosiect ymchwil yw’r prosiect yma sydd heb gael ei gwblhau eto.

Mae yna rai cynhyrchwyr caws ar raddfa bach yn barod yng Ngwynedd. Yn aml iawn cynhyrchu yn eu ceginau ar y fferm maen nhw gan arbrofi gyda chynhyrchu caws. Mae’n anodd iddyn nhw dyfu a chreu busnes o’r cynnyrch heb iddynt gael lle priodol i allu cynhyrchu mwy o’r cawsiau.

Bwriad yr ymchwil fydd i geisio darganfod os oes galw ar gyfer cael lleoliad lle mae yna offer arbenigol er mwyn i gynhyrchwyr llaeth allu arbrofi drwy gynhyrchu caws. Bydd hefyd yn gyfle i’r rhai sy’n cynhyrchu ychydig o gaws eisoes i dyfu eu busnes drwy eu galluogi i gynhyrchu mwy.

Mi fydd adroddiad iw gael ar ddiwedd yr ymchwil fydd yn amlygu os oes potensial i ddatblygu hyn ymhellach.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU