Ceir Trydan Cymunedol

Cynllun peilot fydd yn treialu ceir trydan cymunedol yng Ngwynedd.

Croeso i brosiect rhannu car trydan cymunedol Gwynedd!

 

CLICIWCH YMA ar gyfer Adroddiad y Prosiect Ceir Trydan Cymunedol
Blwyddyn 1: Abergynolwyn a Bethesda 2019 – 2020

Mae blwyddyn gyntaf y prosiect wedi dod i ben, ac mae’n amser i’r ceir symud i’w lleoliadau newydd yn Penygroes a Llanaelhaearn am flwyddyn arall!

Eisiau defnyddio un? Maen nhw ar gael i unrhyw un eu llogi fesul awr neu ddiwrnod.

Gydag amser i helpu’r rhai yn eich cymuned nad ydyn nhw’n gallu gyrru? Byddwch yn yrrwr cymunedol gwirfoddol.

 

Y prosiect

Mae prosiect rhannu ceir trydan Cymunedol Gwynedd yn brosiect dwy flynedd gyda dau brif nod.

  1. I dreialu model rhannu ceir cymunedol mewn cymunedau gwledig a gweld p’un a yw’n helpu pobl sydd wedi’u hynysu drwy ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol. Gall y ceir wasanaethu’r rhai nad oes ganddynt gar eu hunain a/neu gartrefi a hoffai ddefnyddio ail gar yn achlyrusol. Drwy dîm o yrwyr gwirfoddol gall y ceir hefyd gynorthwyo’r rhai nad ydynt yn gallu gyrru, er enghraifft, yn ogystal ag achlysuron cymdeithasol, gan eu cadw mewn cysylltiad â’u cymunedau lleol.
  2. I godi ymwybyddiaeth o geir trydan a hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy. Mae ceir trydan yn llawer mwy effeithlon na cheir sy’n defnyddio petrol neu ddiesel, gallant gael eu pweru gan ynni adnewyddadwy carbon isel, mae eu hallyriadau’n ddi-bibell ac maen nhw’n rhatach i’w rhedeg. Drwy roi cyfle hawdd i bobl roi cynnig ar gar trydan eu hunain, nod y prosiect yw profi i drigolion lleol bod pobl yn gallu defnyddio car trydan yn eu bywydau o ddydd i ddydd a’i fod yn ddewis amgen ymarferol i gar diesel neu betrol. Mae’r cynnydd mewn ceir trydan ar y ffordd ym Mhrydain wedi bod yn enfawr dros y 6 mlynedd diwethaf (3,500 o geir trydan yn 2013, i 227,000 o geir trydan diwedd Awst 2019)* ac mae’n bwysig bod trigolion Gwynedd yn ystyried manteision ceir trydan, iddyn nhw eu hunain ac i’r amgylchedd.

 

Y ceir

Nissan LEAF 40kWh yw “Carwen” a “Carwyn”. Maen nhw’n geir 5 drws, 5 car â digon o le yng nghist y car. Mae ganddynt ystod gyfartalog o 110-150 milltir o bob cyfnod gwefru. Bydd gyrrwyr sy’n aros yn ysgafn ar y sbardun ac yn cadw’r mesurydd pŵer yn y modd eco yn cael pen uchaf y sbectrwm ystod hwnnw – neu fwy!

Heb orfod aros i wefru, gallech yrru o Benygroes i Fachynlleth ac yn ôl (106 milltir) yn braf, neu yrru o Lanaelhaearn i Fanceinion (118 milltir) – er efallai y byddwch am stopio am seibiant yn ystod y daith 2.5 awr honno! Ac wrth gwrs, maen nhw’n gallu mynd â chi i’r archfarchnad neu’r feddygfa leol hefyd.

 

Y cymunedau

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, bydd y car sydd wedi’i enwi’n “Carwen” yn cael ei leoli ym Mhenygroes a’i reoli gan Siop Griffiths, a “Carwyn” yn Llanaelhaearn, sy’n cael ei reoli gan Antur Aelhaearn.

Mae Siop Griffiths Cyf yn fenter gymdeithasol sydd yn gweithredu ym Mhenygroes a’r ardal gyfagos. I gael rhagor o wybodaeth amdanyn nhw a “Carwen” ewch i dudalen Facebook Yr Orsaf Cymunedol:  https://www.facebook.com/yrorsafcymunedol/

I gofrestru fel gyrrwr gwirfoddol, cysylltwch hefo Greta ar greta@yrorsaf.cymru

Mae Antur Aelhaearn yn grwp cymunedol sy’n gweithredu yn ardal Llanaelhaearn. I gael rhagor o wybodaeth amdanyn nhw neu “Carwyn” ewch ar eu wefannau cymdeithasol: Facebook – https://www.facebook.com/Anturaelhaearn/?ref=page_internal neu Twitter – https://twitter.com/AnturAelhaearn

I gofrestru fel gyrrwr gwirfoddol, cysylltwch hefo Llyr ar moelfrefawr@gmail.com

Lleoliadau’r ceir

Lleolir “Carwen” mewn man parcio pwrpasol tu ôl i Siop Griffiths, Penygroes.

Wrth archebu, dyma lle byddwch yn codi ac yn dychwelyd “Carwen”.

Lleolir “Carwyn” mewn maes parcio pwrpasol â gwefrydd wrth Ganolfan Antur Aelhaearn.

Wrth archebu, dyma lle byddwch yn codi ac yn dychwelyd “Carwyn”.

Sut i archebu car

Mae’r ceir yn cael eu rheoli drwy Glwb Ceir Co-Wheels. Menter gymdeithasol yw Co-Wheels a’i phrif ffocws yw helpu ei haelodau i arbed arian, lleihau perchenogaeth ceir a chreu amgylchedd mwy glân drwy sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ar gael i bawb.

Bydd angen i ddefnyddwyr gofrestru gyda Co-Wheels (£5 gyda’r côd hyrwyddo) er mwyn derbyn eich cerdyn clyfar (smartcard) fydd yn ymddwyn fel goriad i’r car. Cofiwch gofrestru yn ddigon buan er mwyn derbyn eich cerdyn!

Defnyddiwch y cod hyrwyddo AGW20 pan yn cofrestru.

Mae hyn yn rhoi disgownt cofrestru o £20 (gan ei wneud yn £5 i gofrestru) ac osgoi’r lleiafswm gwariant misol o £5.

  1. Cofrestrwch gyda Co-wheels drwy’r ddolen hon https://gwynedd.book.co-wheels.org.uk/auth/register gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo AGW20
  2. Gosodwch eich proffil gyrrwr (byddwch angen eich Rhif Yswiriant Gwladol a chod gwirio trwydded yrru https://www.gov.uk/view-driving-licence)
  3. Bydd eich manylion yn cael eu gwirio
  4. Byddwch yn derbyn eich pecyn aelodaeth gyda cherdyn clyfar
  5. Archebwch “Carwen” neu “Carwyn” (o ddydd Llun 11 Tachwedd ymlaen) neu un arall o geir Co-Wheels ar draws y DU! https://gwynedd.book.co-wheels.org.uk/

Mae Co-Wheels yn darparu yswiriant, gwasanaeth torri i lawr a llinell gymorth 24 awr i ddefnyddwyr. Mae manylion llawn, (gan gynnwys tâl dros ben), telerau ac amodau ar eu gwefan.

 

Prisiau llogi

Awr – £3

Dros nos* – £6

Diwrnod** – £21

Y filltir – Am ddim

*8pm-8am

**Unrhyw gyfnod 24 awr

Mae gan “Carwen” a “Carwyn” wahanol brisiau i Glwb Ceir Co-Wheels eraill. Os ydych yn archebu ceir Co-Wheels, bydd prisiau gwahanol yn berthnasol.

 

Gwefru’r ceir

Mae gan bob car le parcio pwrpasol gyda gwefrydd 7Kw. Bydd hyn yn gwefru’r car tua 30milltir/20% yr awr. Tra bod y prosiect yn mynd rhagddo, mae’r pwynt gwefru hwn ar gyfer defnydd y car cymunedol yn unig ac nid yw’n agored i’w ddefnyddio gan y cyhoedd yn gyffredinol. Caiff y cebl gwefru ei storio yng nghist y car.

Mae’n rhad ac am ddim i wefru’r car yn ei fan gwefru cartref.

 

Cynllunio eich taith

Os hoffech ddefnyddio’r car ar siwrnai sy’n hirach nag ystod y car, bydd yn rhaid i chi ei wefru mewn gwefrydd cyhoeddus. Cyn i chi gychwyn, defnyddiwr PlugShare https://www.plugshare.com/ neu ZapMap https://www.zap-map.com/live/ i’ch helpu i gynllunio eich taith ac i ymchwilio manylion unrhyw wefrydd y byddwch efallai am ei ddefnyddio. Chi fydd yn gyfrifol am actifadu a thalu am unrhyw daliadau tra bydd y car gennych chi.

Gwefrwyr cyflym iawn

Mae’r ceir yn gwefru’n gyflym, gan ddefnyddio Chademo (y soced gwefru mawr) a bydd yn gwefru o lefel isel i 80% mewn tua 40 munud mewn gwefrydd cyflym iawn. Fel arfer mae ffi am ddefnyddio gwefrydd cyflym iawn, ac yn aml iawn mae angen cael ap neu gerdyn RFID y cwmni i ddechrau’r gwefru. E.e. ElectricHighway or Polar Instant.

Gwefrydd cyflym

Gallwch hefyd ddefnyddio gwefrydd 7Kw, a fydd yn codi o isel i 80% mewn tua 4 awr. Mae’r rhain yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi yn eich cyrchfan ac yn gwneud rhywbeth arall beth bynnag (nid dim ond aros i’r car wefru!). Gallwch hefyd eu ddefnyddio i ‘ychwanegu at’ os ydych yn stopio am gyfnod byrrach. Yn aml, mae’r gost yn isel ac weithiau am ddim.

 

Unrhyw gwestiynau?

Bydd y grwpiau cymunedol yn hapus i sgwrsio â chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y ceir, gan gynnwys cofrestru, bwcio, gwefru neu wirfoddoli.

Ar gyfer “Carwen” yn Penygroes, cysylltwch â Greta ar greta@yrorsaf.cymru yn Siop Griffiths.

Ar gyfer “Carwyn” yn Llanaelhaearn, cysylltwch â Llyr ap Rhisiart ar moelfrefawr@gmail.com yn Antur Aelhaearn.

Gyrrwch yn ddiogel!

 

Fideos ‘Sut i’

 

1) Sut i wefru yn y lleoliad cartref

2) Sut i wefru gyda pwynt gwefru cyflym

 

3) Sut i yrru Carwyn a Carwen

 

 

Fideos

-

-

-

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU