Cegin Noddfa

Cegin gymunedol yng Nghaernarfon

Prif fwriad  y prosiect yma yw manteisio ar y mynediad sydd gan aelodau’r Pwyllgor Rheoli, ynghyd â Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ward Peblig, at famau a theuluoedd yr ardal er mwyn rhoi rhaglen ar waith fydd yn cael effaith mesuradwy ar agweddau ac ymarferion bwyta a choginio’r trigolion lleol.

Yn deillio o raglen Cymunedau yn Gyntaf ardal Peblig, Caernarfon, mae dyhead i sefydlu Menter Gymunedol sydd yn darparu bwyd maethlon aml bwrpas – yn gymysg o fwyd cyflym ‘tecawe’, arlwy caffi dyddiol a gwasanaeth bwyty ar benwythnosau, ynghyd a pharatoi bwyd ar gyfer digwyddiadau achlysurol oddi ar y safle.

Mae cais llwyddiannus i CIST Gwynedd wedi ei wneud i gyflogi cogydd ar gyfer y fenter am gyfnod o 6 mis. Ar ôl hynny bydd rhaid i’r fenter dalu cyflog y cogydd. Roedd y prosiect peilot yn cefnogi gosod y gegin, cynnal sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth o fwyd iach.

Mae ward Peblig, yn ôl Indecs Aml-Ddifreintedd Llywodraeth Cymru, yn rheolaidd ymysg y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Ym Mheblig (Caernarfon) and Marchog (Bangor) mae’r pocedi isaf o weithredoedd economaidd yn bodoli. Ym Mheblig hefyd ceir y lefelau isaf o gyrhaeddiad addysgiadol yng Ngwynedd gyda 50.3% o’r boblogaeth yn ddigymhwyster.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU