Byw a Bod – Perfformio

Treialu ffyrdd newydd o gyflwyno iaith, diwylliant a threftadaeth i ymwelwyr.

Roedd y prosiect hwn yn gyfle creadigol i israddedigion gymryd rhan mewn prosiect perfformiad i gyflwyno iaith, diwylliant a threftadaeth i ymwelwyr yng Ngwynedd. Mae’r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yn ychwanegu at y profiad o ymweld â Gwynedd. Gweithiodd Arloesi Gwynedd Wledig gyda nifer o fyfyrwyr uchelgeisiol a chreadigol i dreialu ffyrdd o gyflwyno iaith, diwylliant a threftadaeth trwy’r celfyddydau.

Gwnaeth Arloesi Gwynedd Wledig recriwtio a chyflogi 7 o israddedigion o Wynedd am 3 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 10 wythnos. Darparodd Cwmni Theatr lleol, Cwmni Fran Wen, reolaeth o ddydd i ddydd i’r israddedigion a darparu hyfforddiant ac arweiniad ar greu perfformiadau stryd. Gweithiodd Arloesi Gwynedd Wledig yn agos gyda Chwmni Fran Wen i fonitro perfformiad yr israddedigion.

Rhannwyd y prosiect yn 3 adran fel a ganlyn:

  1. Tair wythnos lle’r oedd y myfyrwyr yn gweithio gydag actorion ac artistiaid proffesiynol ar y rhan “Ar Y Stryd” a oedd yn cynnwys perfformio ar draws 3 Sir yng Ngogledd Cymru. Rhoddodd hyn brofiad i’r myfyrwyr o gyflenwi perfformiadau stryd o flaen y cyhoedd.
  2. Tair wythnos yn datblygu a pharatoi eu cynhyrchiad eu hunain gyda’r nod o gyflwyno’r Gymraeg a’r diwylliant i’r ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth amlwg ledled Gwynedd.
  3. Tair wythnos yn perfformio 6 sioe y dydd mewn atyniadau i dwristiaid, gan gynnwys Port Meirion, Parc Coedwig Gelli Gyffwrdd, a chyrchfannau twristiaid poblogaidd megis Castell Harlech, Caernarfon a Llanberis.

Daeth y prosiect i ben gyda digwyddiad yn adeilad Pontio (Bangor), a roddodd gyfle i’r myfyrwyr roi adborth ar y prosiect, ac amlygu’r gwersi a ddysgwyd dros y naw wythnos.

Adroddiad Diwedd Byw a Bod Rhag 2021

Fideos

Uchafbwyntiau’r Prosiect -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU