Byw a Bod Perfformio (Cydweithredol Gwynedd a Môn)

Treialu ffyrdd newydd o gyflwyno iaith, diwylliant a threftadaeth i ymwelwyr yng Ngwynedd a Môn

Roedd y prosiect hwn yn gweithio gyda phobl ifanc i gyflwyno theatr stryd mewn atyniadau a lleoliadau twristiaeth poblogaidd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar brosiect Byw a Bod (Perfformio) a gyflwynwyd gan Arloesi Gwynedd Wledig yn 2016.

Mae’r prosiect yn ceisio treialu dulliau newydd o gyflwyno iaith a diwylliant i ymwelwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn drwy berfformiadau stryd. Bydd yn cael ei gyflenwi drwy weithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.

Mae twristiaeth yn gyflogwr mawr ym Môn a Gwynedd ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi.  Fodd bynnag, anaml y caiff iaith a diwylliant y rhanbarth lwyfan o fewn y diwydiant gan nad oes iddynt unrhyw werth economaidd canfydded. Mae hyn yn  cyfateb i amcan a nodwyd yn SDLL Môn a Gwynedd o ychwanegu gwerth at iaith a diwylliant.   Mae’r prosiect hefyd yn ategu ymgyrch Croeso Cymru “Blwyddyn y Chwedlau” sy’n rhedeg drwy gydol 2017.

Y nod oedd creu perfformiadau diddorol, deniadol ac annisgwyl a fydd yn herio canfyddiadau pobl. Tra’n cydnabod y cyd-destun hanesyddol, mae hefyd yn bwysig bod cynulleidfaoedd yn ennill gwerthfawrogiad bod iaith a diwylliant Cymru yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fyw iawn yn y Gogledd.

Cwmni Theatr

Penodwyd Cwmni Fran Wen fel cwmni theatr broffesiynol i reoli, hyfforddi a mentora’r bobl ifanc i ateb y briff dros y 10 wythnos.

Recriwtio Pobl ifanc o Wynedd a Môn

Cafwyd 30 o geisiadau am y swyddi dros yr haf.

Penodwyd 11 person ifanc. (6 o Wynedd a 5 o Fôn) Roedd y swyddi yn cael ei hysbysebu ar Lleol.net a hefyd drwy ysgolion/ cwmnïau theatr a chyfryngau cymdeithasol.

AMRANT

Datblygodd y pobl ifanc enw a brand unigryw i’w cwmni theatr sef AMRANT. Roedd hwn yn cael ei defnyddio ar eu llwyfannau cymdeithsol i hyrwyddo y perfformiadau.

Perfformiadau

Creuwyd 3 perfformiad gwahanol i gael eu perfformio ar draws lleoliadau i gyflwyno y iaith a diwylliant Cymreig i ymwelwyr.

Lleoliadau

Roedd perfformiadau ar draws Gwynedd a Môn. Biwmares/ Caernarfon/ Bangor/ Gelli Gyffwrdd/ Sioe Môn/ Llanberis/ Rhosneigr/ Niwbwrch/ Bermo/ Criccieth/ Portmeirion/ Tŷ Coch Morfa Nefyn/ Caergybi/ Llangefni/ Llanfair.

Erthygl Golwg 360

 

Adroddiad Diwedd Byw a Bod Rhag 2021

Fideos

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU