Prosiect sydd yn ceisio sefydlu model “buddsoddiad mewnol”, annog fwy o fentergarwch ac adnabod a manteisio ar adnoddau lleol er budd yr economi ym Mhen Llŷn â’r gymuned yn gyffredinol.
Bwriad y prosiect hwn oedd i sefydlu model “buddsoddiad mewnol” yn ardal Pen Llŷn drwy gael 11 o bobl busnes lleol i roi arian eu hunain i mewn i gronfa er mwyn cynnig benthyciadau di-log i bobl Llŷn i ddechrau neu ddatblygu eu busnes. Mae’r prosiect yn annog mentergarwch ac yn rhoi cyfle i bobl yr ardal ddechrau busnes eu hunain er mwyn gallu byw a gweithio yn eu milltir sgwar.
Mae’n bosib i ymgeiswyr gael benthyciad di-log o hyd at £5,000 i helpu efo’u busnes a gall yr arian yma fynd tuag at brynu offer hanfodol, costau hyfforddiant, marchnata, llogi lleoliad addas i weithredu’r busnes ayyb.
Ond nid yn unig cymorth ariannol mae criw Be Nesa Llŷn yn ei gynnig, maent yn awyddus iawn i gynorthwyo, cynghori a chynnig unrhyw help o ran profiadau, sgiliau a chysylltiadau i unrhyw berson sy’n derbyn benthyciad.
Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi galluogi i nifer o bobl ar draws Pen Llŷn i wireddu eu breuddwyd o gychwyn busnes eu hunain yn cynnwys busnes ‘fake-tan’, ffitrwydd trampoline a busnes crefft.
Mae’r cynllun yma yn dal i fynd hyd heddiw, felly os ydych chi’n byw ym Mhen Llŷn ac angen cymorth ariannol i ddechrau busnes yn ogystal â chyngor gan bobl busnes yr ardal yno cerwch amdani!
I wneud cais mi fydd yn rhaid llenwi ffurflen gais a chyflwyno copi o Gynllun Busnes a Llif Arian.
Ffurflen Gais a Canllawiau ar gael ar wefan Be Nesa Llŷn – https://benesallyn.wordpress.com/dogfennau/