
Creu gwell dealltwriaeth a dehongli o’r diwydiant llechi o fewn cymunedau dethol, yn ogystal â chreu naratif i ddweud hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.
Bwriad y cynllun yw i greu gwell dealltwriaeth a dehongli o’r diwydiant llechi o fewn cymunedau dethol, yn ogystal â chreu naratif i ddweud hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.
Un o’r blaenoriaethau allweddol a nodwyd gan Dasglu Llechi Cymru yn y Cynllun Economaidd yw’r angen i ddatblygu cyrchfannau o safon uchel ar draws y saith safle allweddol o fewn yr ardal enwebiad; gan helpu i gwrdd â gofynion a disgwyliadau ansawdd y dynodiad byd-eang mawreddog.
Tra bod rhai ardaloedd o fewn ardal enwebu STB yn cael eu hystyried eisoes yn gyrchfannau twristiaeth cydnabyddedig, mae gan rai brofiad a chyfleusterau cyfyngedig fel cyrchfannau i dwristiaid. Un thema gyffredin i bob un ohonynt yw dealltwriaeth a dehongliad gyfyngedig o’r diwydiant pwysig byd-eang a greodd y cymunedau hyn; nid oes naratif unedig ar gyfer adrodd hanes diwydiant llechi gogledd Cymru.
Y saith ardal o fewn yr enwebiad yw:
-Ogwen (Porth Penrhyn i Fethesda)
-Dinorwig (Llanberis, Deiniolen)
-Nantlle (Penygroes i Nantlle)
-Cwm Pennant a Chwm Ystradllyn
-Ffestiniog ac Afon Dwyryd (Rheilffordd Porthmadog, Rheilffordd Ffestiniog i Flaenau Ffestiniog)
-Bryneglwys, Abergynolwyn i Dywyn
-Aberllefenni
Bwriedir cynnal y prosiect hwn mewn tri anheddiad peilot o fewn yr ardal enwebiad.