Amser i Fentro

Amser i Fentro - prosiect sy'n cefnogi unigolion mewn gwaith llawn amser i ddatblygu busnes eu hunain

Amcan prosiect Amser i Fentro oedd i ganiatáu amser i unigolion mewn gwaith llawn amser i ddatblygu syniadau tra mewn gwaith llawn amser ac felly heb ostyngiad mewn incwm. Mae’n ceisio dynwared y cysyniad "amser 20% " a ddefnyddir gan rai cwmnïau mawr yn y sector preifat, fel Google a 3M. Mae'n galluogi staff i dreulio un rhan o bump o'u hamser yn datblygu prosiectau tu allan i'w rhaglen waith arferol, ac mae wedi arwain at arloesedd fel Gmail a’r ‘Postit Note’. Ceir rhai enghreifftiau o unigolion yn cychwyn mewn busnesau tra mewn gwaith amser llawn, e.e .Bwyty Lleu, Anelu'n Uchel Bob Amser, a Wedding Belles. Fodd bynnag, mae angen llawer iawn o ymdrech, a chyflogwr caredig.

  • Yr oedd Arloesi Gwynedd Wledig yn ad-dalu costau cyflog am 1 diwrnod yr wythnos am gyfnod o 6 mis.
  • Yr oedd disgwyl i’r unigolyn ddefnyddio’r diwrnod a gefnogir gan Arloesi Gwynedd Wledig er mwyn datblygu’r syniad busnes.  Disgwylwyd hefyd i’r ymgeiswyr llwyddiannus fuddsoddi eu hamser eu hunain yn y prosiect.
  • Trefnwyd cymorth mentora arbenigol ar gyfer yr ymgeiswyr trwy gydol y 6 mis.  Yr oedd hyn yn bennaf ar sail 1 i 1, ond hefyd yr oedd rhaid i’r ymgeiswyr fynychu gweithgareddau grŵp.
  • Disgwylwyd i’r ymgeiswyr gyflwyno cynllun busnes wedi’i gwblhau ar ddiwedd y 6 mis, a fydd ar gael i’r cyhoedd drwy ein gwefan.

Trefnwyd galwad agored er mwyn hyrwyddo’r prosiect a recriwtio ymgeiswyr. Yn wreiddiol yr oedd cyllid ar gael i gyllido 5 unigolyn ond dim ond 3 oedd yn addas ac yn llwyddiannus.

Y tri ymgeisydd llwyddiannus oedd y canlynol:

Eryl Price-Williams – mae Eryl yn gweithio fel Swyddog gweinyddol i Cyngor Gwynedd ac yr oedd gyda diddordeb mewn crefftau ers yn blentyn. Yr oedd yn freuddwyd gan Eryl i unai cael swydd yn y maes crefftau neu cychwyn busnes ei hun gan rannu ei sgiliau gyda eraill. Enw’r busnes yw ‘Gyda Llaw’ ac mae hi’n darparu partíon a gweithdai crefft ar gyfer plant ac oedolion.

https://www.facebook.com/gydallaw/

Jacqueline Parry – mae Jacqui yn gweithio fel athrawes Astudiaethau Busnes yn Ysgol Glan Y Môr, Pwllheli. Mae Jacqui eisioes dros y blynyddoedd wedi darparu pwdinau o safon uchel mewn potiau jam ar gyfer teulu a ffrindiau ac yr oedd hi felly oherwydd ei chariad tuag at goginio eisiau ei droi mewn i fusnes ond ddim yn gwybod sut. ‘Potia’ ydy enw’r busnes ac mi fydd hi’n darparu nhw o’i chartref gyda archebion yn uniongyrchol cyn cynllunio i’w gwerthu mewn siopau lleol yn dalgylch Pwllheli.

Lois Jones –  merch ysgol yw Lois (15 oed) ac er nad oedd ei chais yn ffitio ‘Amser i Fentro’ oherwydd ei bod yn ddisgybl ysgol, mi oedd y syniad busnes yn un unigryw gyda’r posibilrwydd o ysbrydoli pobl ifanc eraill i gychwyn busnes. Mae Lois a’i theulu yn byw ar fferm ger llyn Trawsfynydd ac yn ffermio defaid mynydd Cymreig ac ddiadell o ddefaid ‘ Zawrtbles’, brid o’r Iseldiroedd sydd yn enwog am fod yn hawdd gwneud â nhw ac yn ddefaid cyfeillgar. Mae Lois eisioes yn dangos y defaid hyn mewn sioeau ac wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl gweld rhaglen deledu am funses trecio defaid, dechreuodd Lois feddwl bod yna farchnad i gynnig yr un fath i ymwelwyr yn Eryri.  Enw’r busnes ydy ‘Llwybrau Defaid Eryri’ ac maent wedi cael dipyn o gwsmeriaid dros y chwe mis dwythaf.

https://sheepwalksnowdonia.wales/

Fideos

-

-

-

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU