Gan ddefnyddio fframwaith Biosffer Dyfi, y nod cyffredinol yw peilotia'r cysyniad o wasanaeth data gyda gwybodaeth ategol sy'n annog symud tuag at amaethyddiaeth gymysg gynaliadwy ac economi cynhyrchu bwyd fwy gwydn
Mae amaethyddiaeth gymysg yn system o ffermio sy’n cynnwys tyfu cnydau yn ogystal â magu da byw.
Craidd y cynnig yw porth gwybodaeth hawdd ei ddeall sy’n dangos defnydd tir amaethyddol a choetiroedd yn ardal Dyfi, wedi’i integreiddio â’r wybodaeth gyfredol ar agweddau ar ddefnydd tir gan ddefnyddio data synhwyro o bell, e.e. mapio gwasanaethau ecosystem.
Mae’r porth Gwybodaeth yn cyfeirio at brif bwynt mynediad i’r prosiect – a fydd yn ran o fewn gwefan Biosffer Dyfi:
https://www.biosfferdyfi.cymru/
Dyma lle fydd ffermwyr, rhanddeiliaid allweddol eraill a’r cyhoedd yn gallu cael gafael ar ddata hanesyddol a chyfoes a gwybodaeth weinyddol yn ymwneud â’r prosiect.
Dangosir y galw am fwyd a gynhyrchir trwy ddefnyddio dulliau amgylcheddol-gadarn, trwy gysylltu cynhyrchwyr presennol a darpar-gynhyrchwyr gyda rhwydwaith o ddefnyddwyr a manwerthwyr lleol. Bydd hanesion llafar a gesglir gan ffermwyr o genhedlaeth hŷn yn ychwanegu at y wybodaeth am ddefnydd tir amaethyddol yn y gorffennol ac yn amlygu goblygiadau cymdeithasol-ddiwylliannol a newidiadau mewn arferion amaethyddol.
Bydd y gwasanaeth yn:
- Dangos dichonoldeb a manteision cymdeithasol ac ecolegol ehangach amaethyddiaeth gymysg
- Darparu deunyddiau ffynhonnell leol i addysgwyr ar hanes defnydd tir ac amaethyddiaeth
Deilliannau:
- Porth gwybodaeth o ddiddordeb eang, gan ysgogi’r economi fwyd leol
- Gwerthfawrogiad ehangach o newid defnydd tir, a chyfleoedd cysylltiedig, yn enwedig ymysg y gymuned amaethyddol
- Dealltwriaeth gynyddol o gyfraniadau synhwyro o bell posib i wneud penderfyniadau amaethyddol
- Dealltwriaeth gynyddol o fanteision grymuso cymunedau ac integreiddio cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd
Rydym yn rhagweld diddordeb mawr yn y prosiect hwn; fodd bynnag, y prif grwpiau rhanddeiliaid a dargedir fydd:
- Ffermwyr: Dyma’r grŵp cynradd a dargedir gan y prosiect hwn. Disgwyliwn y bydd eu prif ddiddordeb mewn opsiynau arallgyfeirio mewn ymateb i’r sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd sy’n newid.
- Gwneuthurwyr polisi a rheolwyr cronfeydd: Peilot newydd a gwahanol ar gyfer symudiad cenedlaethol tuag at gefnogi mwy o nwyddau cyhoeddus o’n tir. Yn dangos rhai o’r manteision o integreiddio cynhyrchu bwyd gydag ystyriaethau amgylcheddol.
- Addysgwyr: Bydd myfyrwyr yn adran Rheoli Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Aberystwyth yn dysgu am reoli data hanesyddol. Ysgolion yn edrych ar newidiadau mewn arferion amaethyddol a chanlyniadau cymdeithasol-ddiwylliannol.
Yn dilyn cyngor gan Bowys, caiff y cynnig hwn ei ffurfio fel prosiect peilot. Y cyd-destun fydd biosffer Dyfi, y prif allbwn fydd ychwanegiad elfen mapio gwe i wefan biosffer Dyfi[1].
Fel prosiect peilot yn profi cysyniad, bwriadwn ganolbwyntio ar ardal Biosffer Dyfi – o safbwynt Arloesi Gwynedd Wledig, mae hyn yn golygu ardal Gwynedd o fewn ardal Biosffer Dyfi.
Y prif bwynt mynediad i’r prosiect a gwybodaeth berthnasol uniongyrchol fydd trwy wefan Biosffer Dyfi. Bydd ffermwyr, rhanddeiliaid allweddol eraill a’r cyhoedd yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a ddarparwn drwy’r porth hwn – bwriadwn ddarparu gwybodaeth ategol sylweddol, megis hanes llafar a chysylltiadau â mentrau perthnasol eraill oddi ar y wefan hon.
Y prif gymhellion i ffermwyr ymgysylltu â’r prosiect fydd:
- Archwilio opsiynau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer arallgyfeirio cynhyrchu bwyd
- Cael gwybodaeth am sut y gall synhwyro o bell gyfrannu at wneud penderfyniadau amaethyddol
- Mynediad at wybodaeth ychwanegol ar eu tir eu hunain a’r tir cyfagos
Gan ddefnyddio rhwydweithiau cysylltiadau sefydledig yng nghymunedau canolbarth Cymru, bydd ecodyfi yn arwain o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid. Defnyddir amrywiol ddulliau i drafod canfyddiadau gyda ffermwyr a chasglu gofynion byd go iawn, gan gynnwys gweithdai, holiaduron, cyfweliadau, is-gyfarfodydd, amlygiad i ddatganiadau cynnar o’r feddalwedd.
Mae gwneuthurwyr polisi a rheolwyr cronfeydd yn gynulleidfa darged bwysig i’r prosiect hwn. Trwy ddefnyddio sianeli cyfathrebu sy’n agored i ni trwy bartneriaeth Biosffer Dyfi, cawsom drafodaethau (cyfarfodydd ffisegol a rhithwir) gyda Llywodraeth Cymru (LlC) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yr hyn a ddarganfuwyd oedd diddordeb mewn cael yr allbynnau o’r prosiect hwn i fwydo i mewn, o bosib fel astudiaeth achos, a hysbysu datblygiadau megis Rhaglen Rheoli Tir Cymru (LlC yn cynllunio ar gyfer cymorth ôl-Brexit i ffermwyr) a’r broses Datganiadau Ardal sy’n datblygu (CNC). Croesawyd yn arbennig adeiladu ar y prawf rheoli adnoddau naturiol a gynhaliwyd yn ardal Dyfi gan CNC.
Mae’r systemau cymhorthdal presennol yn gwahanu’r amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Rhan o’r arloesedd yr ydym yn ei gynnig yma yw gwneud y cysylltiad yn fwy eglur.
Mae llawer o dir Cymru a all gefnogi cnydau âr yn dir cynnyrch-isel ac yn aneconomaidd o’i gymharu â’r tir ffrwythlon o safon uchel mewn mannau eraill yn y DU. Y pwynt y bydd y prosiect hwn yn ei wneud yw (gan ragweld newidiadau yn yr amgylchedd cymdeithasol-wleidyddol) fod cnydau âr dwysedd isel yn dod yn economaidd pan ystyrir cynaladwyedd gwirioneddol a ffactorau megis diogelwch bwyd, gwelliannau mewn bioamrywiaeth, cyllidebau carbon, iechyd y pridd ac adfywio lleol.
Integreiddio mapiau degwm Cymreig 1840 [2] sydd bellach wedi eu digideiddio a data cyfoes (yn bennaf wedi’i synhwyro o bell) yw un o agweddau mwyaf arloesol y prosiect hwn. Rydym yn cynnig rhoi ffynonellau data hanesyddol ychwanegol yn ystod gweithrediad y prosiect. Bydd partneriaid y prosiect sef Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn nodi ffynonellau ychwanegol o ddata hanesyddol gwerthfawr o ran cwrdd ag amcanion y prosiect a pha gamau fyddai eu hangen i’w gwneud ar gael trwy’r porth gwybodaeth. Os yw’n bosib ac o fewn cyfyngiadau’r prosiect, byddwn yn sicrhau bod data hanesyddol ychwanegol ar gael.