Hoppa Harlech

Taclo’r traffig gyda ‘Hoppa Harlech’

 

Gyda’r miloedd o dwristiaid sy’n heidio i Harlech bob blwyddyn daw heriau yn ogystal â chyfleodd – a cheisio ymdopi ag un o’r heriau hynny mae’r Harelch Hoppa.

Heb os mae castell Harelch yn un o brif atyniadau’r ardal – a chan ei fod wedi ei leoli yn rhan uchaf y dref, nid ymhell o’r allt fwyaf serth yn y byd, mae nifer fawr yn gyrru yno ac yn ceisio parcio ger llaw. Mae hyn yn arwain at broblemau traffig difrifol – ac os nad oes lle roedd mae ymwelwyr yn dueddol o adael heb ymweld â’r castell na’r dref.

I ymateb i’r broblem hon fe drefnodd AGW fws wennol i gario pobl o’r maes parcio yng ngwaelod Harlech i fyny i ran uchaf y dref bob hanner awr, bob dydd yn ystod gwyliau’r haf yn 2018. Roedd y prosiect mor llwyddiannus, penderfynodd y gymuned redeg y gwasanaeth ei hun eleni.

Mae Freya Bentham, cynghorydd ardal Harlech yn esbonio sut mae’r prosiect wedi helpu’r dref: “Roedd y prosiect mor ddefnyddiol y llynedd fe benderfynodd y gymuned bod werth ei redeg eto eleni. Heb fuddsoddiad AGW ni fyddai hyn wedi bod yn bosib ac roedd yr arolwg gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith y llynedd yn dangos gwerth y prosiect a bod mwy o bobl wedi bod yn barod i wario wrth ymweld â rhan uchaf Harlech a galluogi iddynt aros yma yn hirach, newyddion gwych i fusensau lleol. Roedd ail redeg y cynllun eleni felly yn gwneud synnwyr llwyr.”

Dywedodd Zoe Pritchard o AGW: “Drwy ein cefnogaeth mae’r grŵp yn Harlech wedi gallu cael yr hyder i fynd ymlaen gyda’r Hoppa eto eu hunain eleni. Gyda’n cefnogaeth ni maen nhw wedi gallu dysgu beth sy’n gweithio yn dda a beth oedd ddim cystal. Yn ei hanfod, pwrpas AGW yw treialu syniadau, dysgu o hynny a rhannu arfer dda – mae’r prosiect yma yn enghraifft berffaith o hyn ar waith.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU