Dod i Nabod – Carwyn ap Myrddin
Dros y misoedd diwethaf mae sawl aelod newydd o staff wedi ymuno â ni. Y tro yma cawn gyfle i ddod i nabod Carwyn ap Myrddin,
sef un o Uwch Swyddogion Prosiect newydd Arloesi Gwynedd Wledig.
Beth oeddat ti’n neud cyn ymuno ac Arloesi?
Gweithio fel Warden ar yr Wyddfa i Barc Cenedlaethol Eryri. Mi o ni yno am 7 mlynedd i gyd.
Pa brosiectau wyt ti’n weithio ar ar hyn o bryd?
Dwi’n gweithio ar amrhyw o brosiectau ar hyn o bryd. Dyma’r prif rai :-
Strydoedd Unigryw
Dewin Ynni
Gwlan Gwynedd
Pwyntiau Gwefru Ceir Trydan
Ceir Trydan Cymunedol
Biospher Dyfi
Mae yna sawl un arall sydd wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer ein cyfarfod LAG mis Chwefror hefyd!
Oes gen ti unrhyw ddiddordebau?
Dwi wrth fy modd hefo chwaraeon o bob math. Pel droed a Rygbi’n bennaf. Dwi’n chwarae i Glwb Rygbi Pwllheli a dwi wedi chwarae i Glwb Rygbi Nant Conwy, Aberystwyth a Rygbi Gogledd Cymru dros y blynyddoed. Dwi’n hoff iawn o fynydda hefyd ac wedi cael profiadau gwych wrth gerdded yn Yr Alban, Ffrainc, Slofacia a Seland Newydd ond mae’n anodd curo Eryri pan mae ar ei orau!
Os bysa chdi’n cael dewis mynd am swper gyda 5 person, yn fyw neu’n farw, pwy fysa ti’n ddewis?
Arthur Picton
Liam Gallagher
Lowri Morgan
Johnny Moch
Pablo Escobar