Strydoedd Unigryw

Creu strydoedd unigryw

 

Mae dirywiad strydoedd mawr Gwynedd, fel mewn llefydd eraill ar draws Cymru yn bryder i nifer. I daclo’r mater felly mae Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) wedi ceisio edrych ar atebion creadigol.

Yn hanesyddol mae’r stryd fawr wedi bod yn ganolbwynt i gymunedau ledled Cymru, o ran swyddi, cartrefi i fusnesau bach yn ogystal â gyrru economïau lleol a rhanbarthol. Ond, oherwydd heriau fel cynnydd mewn siopa ar-lein, datblygiad canolfannau siopa mawr ac archfarchnadoedd mae ein strydoedd mawr yn wynebu trafferthion a hynny yn ei dro yn cyfrannu at ddirywiad canol trefi.

Eglurodd Zoe Prichard, Rheolwr AGW: “Erbyn hyn mae defnyddwyr yn chwilio am ystod o brofiadau ar y stryd fawr, o siopa i hamdden, o adloniant i wasanaethau iechyd. Mae angen i’r stryd fawr fod yn cynnig profiad unigryw erbyn hyn, rhywbeth na all pobl yn angenrheidiol ddarganfod mewn llefydd eraill.”

Gweithiodd tair cymuned efo AGW i wireddu’r cynllun yma – sef Cricieth, Nefyn a Caernarfon.

Yng Nghaernarfon datblygwyd syniad ar gyfer Stryd y Plas, gan  greu gosodiad celf uwchben y stryd er mwyn creu amgylchedd deniadol a lliwgar fyddai hefyd yn denu pobl yno. Bydd ymwelwyr â Stryd y Plas dros y misoedd diwethaf wedi gweld yr arddangosfa, sef cyfres ymbareli lliwgar uwch ei  pennau.

Mae’r gosodiad wedi bod yn boblogaidd iawn, gyda channoedd o luniau o’r stryd yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol, a phobl yn teithio yno yn arbennig i’w gweld. Cynhaliwyd arolwg ar y stryd i holi barn, ac roedd 99% yn cytuno bod y gwaith celf yn creu argraff dda, tra roedd 61% yn cytuno bod y gwaith celf wedi gwneud iddynt wario mwy ar y stryd a threulio mwy o amser yno.

Ymysg syniadau ar gyfer Cricieth oedd y Digwyddiad Creadigol, ble cafwyd diwrnod o weithgareddau celf, perfformiadau a gweithdai. Mae busnesau Cricieth wedi bod yn cymryd rhan hefyd gan arddangos hen luniau o’r siopau er mwyn creu cymariaethau gyda’r stryd heddiw. Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn ystod y digwyddiad roedd 80% o’r bobl gymerodd ran yn cytuno bod y digwyddiad a’r gwaith celf wedi gwneud iddynt wario mwy ar y stryd a 100% yn cytuno bod y cynllun wedi creu argraff dda arnynt.

Cynnal parti mawr oedd y syniad ar gyfer Nefyn, gyda cherddoriaeth byw, stondinau crefft, bwyd a gweithgareddau. Cynhaliwyd ‘Parti ar y Pafin’ yn ystod yr haf ar Stryd Fawr Nefyn. Roedd nifer a fynychodd yn adrodd bod yr awyrgylch yn anhygoel yno, gyda nifer fawr wedi dod i gefnogi a mwynhau. Roedd gweithgareddau i blant yn ystod y dydd, gydag artistiaid yn cynnwys  Anweledig, Gwilym Bowen Rhys a Bwncath yn diddanu’r dorf gyda’r nos.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU