Strydoedd Unigryw

Ceisio adnabod ffyrdd ble gall strydoedd mewn cymunedau gwledig gystadlu gyda chanolfannau siopa a siopau ar-lein er mwyn cynyddu niferoedd eu hymwelwyr ac incwm.

Mae dirywiad canol trefi yng Ngwynedd yn bryder i nifer o bobl, ond mae ein cynllun Strydoedd Unigryw  yn ceisio taclo’r her hon gan ddefnyddio datrysiadau creadigol!
Mae tystiolaeth yn dangos bod siopau ar-lein, canolfannau siopa mawr ac archfarchnadoedd wedi cael effaith negyddol ar fasnach canol trefi a hynny yn ei dro wedi cyfrannu tuag at ddirywiad ein trefi.
Bwriad y cynllun hwn yw cynorthwyo trefi Gwynedd i addasu a chreu profiad unigryw fydd yn denu pobl yno.

Yn dilyn galwad agored, dewiswyd Caernarfon, Cricieth a Nefyn i fod yn rhan o’r cynllun. Gosodwyd yr ymbarelau amryliw hyn uwchben Stryd y Plas, Caernarfon, a gan mai dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yn y wlad, derbyniom gryn dipyn o sylw!

Dywedodd Gavin Owen ar ran HWB Caernarfon:
‘Mae hi wedi bod yn dda cydweithio a chael cefnogaeth y busnesau lleol wrth ddatblygu’r cynllun yma. Mae yna ymbarelau amryliw tebyg wedi eu gosod yn yr Ŵyl Gelf AgitAgueda ym Mhortiwgal ers rhai blynyddoedd. Mae’r gosodiad celf yna wedi denu miloedd i’r dref ar ôl i luniau o’r ymbarelau gael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Da ni’n ffyddiog y bydd hyn yn digwydd yma yng Nghaernarfon hefyd gan roi budd i fusnesau yng nghanol y Dref’.

Defnyddiwyd technoleg HWB Caernarfon i fonitro lefelau ymwelwyr y stryd ac roedd yn glir bod yr ymbarelau wedi cynyddu’r lefelau hyn. Roedd yn bosib gadael y ceblau uwchben y stryd er mwyn eu hail-ddefnyddio i osod gwahanol osodiadau celf yno yn dibynnu ar dymhorau/digwyddiadau.

Penderfynwyd cynnal ‘Parti ar y Pafin’ ar Stryd Fawr Nefyn, sef digwyddiad i ddod â’r holl gymuned at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth byw, bwyd blasus a gweithgareddau’n addas ar gyfer pob cenhedlaeth. Roedd hyn yn bosib diolch i gefnogaeth a brwdfrydedd y gymuned- yn wir, mynychodd dros 900 y digwyddiad.

 

 

 

 

Cynhaliom ‘Y Digwyddiad Creadigol’ yng Nghricieth, a thema’r diwrnod oedd ‘Welsh Incident’, sef cerdd Robert Graves am ddigwyddiad dychmygol yn y dref yn 1929. Daeth 1000 o bobl at ei gilydd i fwynhau arddangosfeydd, gweithdai celf, perfformiadau, a bwyd a diodydd lleol. Rhai misoedd wedyn, dadorchuddiwyd cerflun a gafodd ei greu i geisio crisialu ysbryd cerdd Graves. Y gobaith yw bod y cerflun yn denu sylw i’r dref ac yn ychwanegu gwerth at brofiad ymwelwyr.

 

 

 

 

.

Fideos

Ymbarelau Stryd y Plas -

Parti ar y Pafin -

Y Digwyddiad Creadigol -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU