Pwyntiau Ceir Trydan

Dangos y budd economaidd o osod pwyntiau gwefru ceir o amgylch ardal Meirionnydd.

Nod y prosiect yw cynyddu ymwybyddiaeth i fusnesau o’r budd economaidd posibl o osod pwyntiau gwefru ceir yng Ngwynedd trwy redeg peilot 12 mis.

Nododd Strategaeth Datblygu Lleol Gwynedd botensial cerbydau trydan yn y rhanbarth. Er mwyn archwilio’r cyfleoedd, bydd AGW yn gosod pwyntiau gwefru mewn 5 busnes ym Meirionnydd. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth leol, casglu data gwerthfawr gan fusnesau a pherchenogion ceir trydan, a rhannu arferion da ar draws Gwynedd a thu hwnt.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd rhyfeddol yn y nifer o gerbydau trydan ar ffyrdd y DU. Cynyddodd y cofrestriadau newydd o “geir plwgio-i-mewn”o 3,500 yn 2013 i dros 43,000 erbyn diwedd mis Medi 2015. Roedd Arloesi Gwynedd Wledig eisiau mesur y galw am bwyntiau gwefru ceir yng Ngwynedd a phenderfynodd redeg rhaglen beilot i fonitro eu defnydd dros gyfnod o 12 mis. Ar yr un pryd, bydd y pwyntiau gwefru newydd hyn yn cael eu cofrestru ar Zapmap a chodir proffil yr ardal.

Mae’r prosiect yn mynd rhagddo, ac ar ddiwedd y 12 mis byddwn mewn sefyllfa i benderfynu a yw gwneud hyn wedi cyfrannu at gynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr, a’r ymwybyddiaeth o’r ardal fel cyrchfan i dwristiaid. Penderfynwyd peilotio’r rhaglen ym Meirionydd oherwydd ei natur wledig, ac yn dilyn ymchwil credir mai dim ond tri phwynt gwefru gweithredol oedd ar gael yno ar y pryd, ar draws yr ardal ddaearyddol gyfan.

Penderfynwyd ar leoliadau’r safleoedd peilot trwy “alwad i weithredu”, lle’r oedd busnesau yn gwneud cais i fod yn un o’r lleoliadau prawf, ac yna’n cael eu hasesu yn erbyn nifer o wahanol baramedrau megis lleoliad, hygyrchedd, nifer yr ymwelwyr presennol ayb. Roedd y lleoliadau fel a ganlyn:

  • Ogofeydd Corris, Corris
  • Fferm Hendy, Tywyn
  • Hunan Arlwyo Byrdir, Dyffryn Ardudwy
  • Bythynnod Gelli Goch, Trawsfynydd
  • Railway Cottage, Y Bala

Mae’n ofynnol i bob un o’r cyrchfannau a ddewiswyd ofyn i bob defnyddiwr gofnodi eu defnydd, eu cyfeiriad a pham eu bod wedi dewis y cyrchfan benodol hon. Darparwyd hyfforddiant hefyd i bob un o’r perchnogion busnes ac maent wedi dod yn llysgenhadon gwefru ceir i’r ardal. Cynhyrchwyd cyfres o 3 ffilm yn dilyn taith drwy’r ardal mewn car trydan.

Fideos

Fideo 1 -

Fideo 2 -

Fideo 3 -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU