Prosiect 15

Rhoi llwyfan i Gymry Cymraeg ddweud eu hanes mewn darlith 15 munud.

Nod Prosiect 15 oedd darparu llwyfan i unigolion llwyddiannus ac ysbrydoledig roi sgyrsiau 15-munud arddull ‘TED’ trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir siaradwyr Cymraeg mewn proffesiynau yn rhai o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r byd, gyda brandiau ar draws y byd ac unigolion sy’n gysylltiedig â phob math o alwedigaethau diddorol ledled y byd. Gwahoddodd Prosiect 15 bum unigolyn ysbrydoledig Cymraeg eu hiaith o gefndiroedd cwbl wahanol i rannu eu profiadau mewn sgyrsiau 15 munud, i herio, ysbrydoli a chychwyn trafodaeth.

Nododd y grŵp prosiect unigolion a oedd â storïau diddorol o wahanol sectorau a chefndiroedd, i gymryd rhan mewn fformat tebyg i’r ddarlith arddull TED a gynhaliwyd yn adeilad Pontio, Canolfan Arloesi Prifysgol Bangor ar 8 Mehefin 2016.

Nodwyd y siaradwyr canlynol ar gyfer y digwyddiad cyntaf –

  • Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Lywodraethu Cymru, Prifysgol Caerdydd.
  • Malcolm Allen, pêl-droediwr rhyngwladol.
  • Lowri Morgan, Rhedwraig uwch-farathon byd enwog.
  • Dr Rhys Davies, y niwrolegydd Ymgynghorol o Walton.
  • Ceryl Davies, sy’n flaenllaw yn y Gwyddorau Cymdeithasol.

Mynychwyd y digwyddiad gan 99 o bobl, a derbyniodd lawer iawn o sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau lleol. Cafodd pob sgwrs ei ffilmio a’i rhoi ar wefan Prosiect 15, sianel YouTube, ac roeddent hefyd ar gael trwy Arloesi Gwynedd Wledig. Mae Prosiect 15 yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau dilynol gan ddefnyddio’r fformat a ddatblygwyd gan Arloesi Gwynedd Wledig.

Fideos

Richard Wyn Jones -

Malcolm Allen -

Lowri Morgan -

Dr. Rhys Davies -

Ceryl Davies -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU