Prosiect sy'n edrych ar fanteision y dull ffermio 'Pori Manwl' ac yn cefnogi treialon ar Fferm Coleg Glynllifon.
Mae Pori Manwl yn ddull o ffermio sy’n rhannu’r caeau mawr i badogau un hectar er mwyn rheoli pori yn well, rheoli’r gorchudd glaswellt a chynyddu incwm ac elw fferm.
Mae’r system hon yn effeithiol iawn i ffermwyr am y rhesymau canlynol:
- mae’n lleihau costau cynhyrchu
- yn cynyddu allbwn anifeiliaid fesul acer
- yn effeithlon o ran defnydd tir
- yn amgylcheddol gyfeillgar
- yn gwella ansawdd bywyd i ffermwyr.
Un o’r rhwystrau i genedlaethau’r dyfodol o ffermwyr sy’n dod i mewn i’r diwydiant yw argaeledd tir, gan nad ydynt yn gallu prynu tir ac yn aml maent yn cystadlu â busnesau sefydledig am dir ar rent. Mae tyfu a defnyddio mwy o laswellt yr hectar ar eu tir eu hunain, gan gynyddu dwysedd stocio ac allbwn ffermydd, yn mynd rhywfaint tuag at liniaru’r broblem hon.
Yn ogystal â chodi cyfradd stocio, mae’r prosiect hefyd yn anelu at dynnu sylw at yr ystyriaethau ymarferol o safbwynt is-rannu ffermydd, maint padogau, math o offer, cyflenwad dŵr ayyb yn ogystal â hyrwyddo manteision mesur glaswellt a’i ddyrannu i dda byw yn gywir yn ôl eu gofynion.
Bydd y prosiect yn:
- Asesu manteision rheoli pori dwys i ffermwyr yng Ngwynedd er mwyn lleihau costau cynhyrchu a chynyddu allbwn anifeiliaid fesul acer.
- Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd technoleg ddigidol ymhlith y diwydiant amaethyddol sy’n draddodiadol yn amharod i ymgysylltu.