Peilot yn arbrofi ar safle benodol er mwyn cyfrannu at greu a datblygu ‘internet of things’ mewn ac ar gyfer ardaloedd gwledig.
Datblygwyd y cynllun ar y cyd gyda Cyngor Gwynedd (Gwynedd Ddigidol) a Grŵp Llandrillo-Menai (Coleg Glynllifon). Y cysyniad yw creu ‘test bed’ / labordy i annog cyflwyno a datblygu ‘internet of things’ yng nghyd destun amaeth / ardaloedd gwledig.
Bydd 3 elfen i’r prosiect:
Gosod isadeiledd priodol all hwyluso ‘internet of things’ mewn ardaloedd gwledig.
Gosodwyd isadeiledd LoRaWAN ar safle Coleg Glynllifon yn 2018.
Bydd y ddwy elfen nesaf yn canolbwyntio ar sut i wneud defnydd o’r dechnoleg ym myd amaeth.
- Annog a marchnata’r safle i eraill ei ddefnyddio e.e. Cyswllt Ffermio, ffermwyr unigol, sector breifat.
Bydd yr elfen hon o’r prosiect hefyd yn edrych ar dreialu ambell i ddyfais sy’n bodoli’n barod ar y safle.
- Annog defnydd ehangach drwy hwyluso sesiynau gyda’r diwydiant Amaeth a’r diwydiant digidol (e.e. North Wales Tech).
Rhoddir cyfle drwy un neu gyfres o sesiynau i’r diwydiant ffermio (gan gynnwys myfyrwyr y coleg a ffermydd preifat) adnabod dyfeisiadau newydd fyddai’n cynorthwyo ffermydd neu yn cyfrannu tuag at effeithlonrwydd ffermio. Byddai’r sesiwn hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o gwmniau digidol, gyda’r nod eu bod yn gallu cynhyrchu un (neu fwy) o’r dyfeisiadau hyn i’w treialu ar yng Nglynllifon.
Yn olaf rhoddir pwyslais ar rannu y gwersi a ddysgwyd a’r llwyddiannau i randdeiliad eraill yng Ngwynedd. Gweler y fideos i ddysgu mwy.