Hafod Ceiri

Addasu Cynllun Busnes, Ffigyrau a Chynlluniau’r prosiect.

Mae’r prosiect yma yn un sydd wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Peilota Gwynedd, sef Cronfa sydd wedi cael ei dargedu at grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd yn eu cymunedau.

Sefydlwyd Hafod Ceiri yn 2014 gan grwp lleol o wirfoddolwyr yn dilyn astudiaeth dichonolrwydd trylwyr ar yr ardal. Roedd yr astudiaeth yn adnabod capel M.C. Llithfaen fel adeilad ac iddo botensial i fod yn gartref i ganolfan fentergarwch aml bwrpas.

Eu nod yw cyflwyno treftadaeth unigryw yr ardal leol a chynorthwyo ystod eang o bobl i ddysgu am eu treftadaeth drwy weithgareddau a digwyddiadau addysgol a chyfranogol; datblygu hyder cymunedol, annog mentergarwch a hybu cyflogaeth y cylch a thrwy hyn sicrhau lle o addoliad i’r dyfodol i bentref Llithfaen gan warchod adeilad unigryw yn yr ardal.

Roedd eu cais i Gronfa Peilota Gwynedd ar gyfer cymorth ariannol i fireinio eu Cynllun Busnes ac i addasu ffigyrau a chynlluniau’r prosiect, yn llwyddiannus. Mi fydd ail edrych ar y cynlluniau yma a’u gwella yn golygu y bydd y grwp yn gallu symud ymlaen i wneud ceisiadau grant ar gyfer gwireddu’r prosiect.

 

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU