Gwyliau Araf

(English) Looking in detail at the idea of developing Llŷn Peninsula as an area for 'slow holidays', highlighting what action could be taken.

Prosiect ymchwil yw’r prosiect yma sydd heb gael ei gwblhau eto.

Bwriad yr ymchwil fydd i edrych yn fanwl ar y syniad o ddatblygu Pen Llyn fel ardal ar gyfer ‘gwyliau araf’ gan amlygu pa gamau posib all gael ei gymryd.

Byddai unrhyw ymgyrch yn canolbwyntio ar ochr hamddena a cherdded sydd ym Mhen Llyn. Byddai’n rhoi pwyslais ar geisio cysylltu cymunedau ac ymwelwyr gyda’r Llwybr Arfordir.

Fel rhan o’r prosiect mi fydd arbenigwr cyfryngau cymdeithasol yn gweithio gyda grŵp o fusnesau er mwyn eu galluogi nhw i hyrwyddo’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig yn well. Mi fydd hefyd yn eu galluogi i hyrwyddo’r syniad o wyliau araf.

Mi fydd hyfforddi aelodau o’r grŵp Croeso Llyn yn rhoi perchnogaeth iddyn nhw o’r prosiect gan sicrhau fod y syniad o wyliau araf yn cael ei hyrwyddo yn yr hir dymor. Mi fydd opsiwn i greu ffilm neu waith creadigol gyda’r arbenigwr fydd yn ffordd dda o ddangos i’r grŵp sut i greu’r math yna o waith gan eu galluogi nhw i wneud ffilmiau byr yn y dyfodol all gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mi fydd mwy o wybodaeth i ddilyn pan fydd yr ymchwil wedi ei gwblhau a’r ffilm wedi ei gynhyr.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU