Gofodau Gwag

Ychwanegu gwerth at ofodau gwag mewn ffordd sy'n ymateb i ofynion cymunedau lleol

Cyhoeddwyd galwad agored ar gyfryngau cymdeithasol Arloesi Gwynedd Wledig i ddod o hyd i gymunedau neu fudiadau oedd yn berchen ar adeilad gwag ac yn edrych am syniadau sut i’w ddefnyddio. Yn dilyn effaith y pandemig mae sawl mudiad yn wynebu’r her o arallgyfeirio defnydd eu gofodau gan fod angen darparu ar gyfer niferoedd llai o unigolion ar unwaith. Mae mudiadau eraill yn awyddus i edrych am ffyrdd newydd o ddenu incwm wrth iddynt golli incwm drwy ddulliau traddodiadol.
Yn dilyn yr alwad agored cynhaliwyd gweithdy ym mis Ebrill 2021 i ddod o hyd i syniadau newydd sut i ddefnyddio’r gofodau gwag. Daeth 10 mudiad at ei gilydd yn ystod y gweithdy: Siop Griffiths (Penygroes), Antur Aelhaearn, Eglwys Llanaelhaearn, Antur Waunfawr, Amgueddfa Forwrol Llyn (Nefyn), Tecstiliau CBC (Bethel), Cyngor Tref Caernarfon, Tafarn yr Heliwr (Nefyn), Barics Nantlle a Chyngor Tref Blaenau Ffestiniog.
Nid yn unig oedd y gweithdy yn gyfle i bawb rannu syniadau am ddefnydd i’w gofodau, roedd yn gyfle i bobl rwydweithio ac adnabod cyfleoedd i gyd-weithio a rhannu sgiliau. Roedd ambell i thema yn sefyll allan wrth rannu syniadau: gofod creu ac ail-ddefnyddio, gofod celf, sinema gymunedol, clwb ieuenctid a marchnadoedd lleol.
Wedi’r gweithdy gofynnwyd i bob mudiad baratoi cynllun gweithredu yn cyfleu eu syniadau er mwyn i AGW ddeall gofynion pawb ac edrych ar sut i gefnogi cymaint o ofodau â phosib.
Penderfynwyd cefnogi’r mudiadau / gofodau canlynol:
– Canolfan Gymdeithasol Bro Ffestiniog i greu siop ‘pop-up’, marchnad leol a gofod cyd-weithio
– Siop Griffiths i sefydlu gofod cyd-weithio

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU