Ffitbit Gwartheg

Asesu os yw gwartheg sydd wedi eu gaeafu allan dros y gaeaf yn fwy ffit ar gyfer lloia yn y gwanwyn o'u cymharu â gwartheg wedi eu buarthu.

Mae Fferm Coleg Glynllifon yn cael ei ddefnyddio i rannu arfer da a thechnegau newydd ymysg ffermwyr Gwynedd.  Maent yn awyddus i asesu os yw gwartheg sydd wedi eu gaeafu allan dros y gaeaf yn fwy ffit ar gyfer lloia yn y gwanwyn o’u cymharu â gwartheg wedi eu buarthu.

Bydd cyfarpar yn cael eu gosod ar ddau grŵp o wartheg magu, rhai allan yn pori cnwd o CEL a rhai wedi eu buarthu ar wellt. Bwriad y treial yw mesur y medrau a orchuddwyd a mesur hwylusder y lloia yn y ddau grwp, amcanir y bydd llawer llai o waith cynorthwyo gyda’r gwartheg a aeafi’r allan gan fod eu cyhyrau llawer cryfach a bydd y lloi yn fwy egniol ar eu geni.

Bydd y Coleg yn monitro cyflwr, pwysau a iechyd y ddau grŵp o wartheg. Bydd data symudiad yn cael ei gasglu gan gyfarpar arloesol fydd yn cael ei osod ar y gwartheg a’i lawrlwytho i gyfrifiadur ar gyfer ei ddadansoddi.

Mae gaeafu gwartheg allan ar gnwd glasfwyd yn gallu arbed costau’r gaeaf yn sylweddol ond nid oes llawer o waith wedi ei wneud ar fanteision iechyd a lles y gwartheg hyn.  Y tyb yw y bydd y manteision hyn ar eu amlycaf yn ystod y cyfnod lloia.

Fideos

-

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU