Defaid Amlbwrpas

Prosiect sy'n ceisio gwella ansawdd gwlan Cymreig a gynhyrchir ar ffermydd yng Ngwynedd, heb gyfaddawdu ar ansawdd a chynhyrchiant cig oen/dafad

Mae Arloesi Gwynedd Wledig, prosiect gan Menter Môn, wedi gwneud canfyddiadau cyffrous ynglŷn ag ansawdd gwlân a chig yn ystod cynllun peilot arloesol sy’n canolbwyntio ar fridio defaid newydd amryddawn.

Nod ‘Defaid Amlbwrpas’ oedd gwella ansawdd y gwlân Cymreig a gynhyrchir ar ffermydd yng Ngwynedd, heb gyfaddawdu ar ansawdd a chynhyrchiant cig oen/dafad. Cyflawnwyd y nod hwn gyda data yn profi bod y ddafad amlbwrpas yn frid amryddawn sy’n cynhyrchu carcasau a gwlân o ansawdd uchel.

Ddwy flynedd yn ôl, mewnforiwyd had o hwrdd Merino o’r enw Charlie o Awstralia a’i ddefnyddio i ffrwythloni 35 o ddefaid Romney yn artiffisial ar ddwy fferm yng Ngwynedd. Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf profodd yr ŵyn amlbwrpas y gallent ffynnu yn amgylchedd y DU heb unrhyw bryderon lles. Dangoswyd hefyd y gellid rheoli’r brîd yn yr un modd â bridiau brodorol.

Cafodd cynnydd yr ŵyn ei fonitro dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ganolbwyntio ar gyfraddau twf, nodweddion a samplau gwlân, ac ansawdd cig. Y canfyddiad mwyaf oedd y gwelliant yn nodweddion gwlân yr oen amlbwrpas o gymharu â’r grŵp rheoli.

Cafodd ŵyn o’r ddwy fferm eu cneifio cyn mynd i’r lladd-dy a chymerwyd samplau ochr o wlân a’u hanfon i’r Awdurdod Profi Gwlân yng Nghaernarfon. Cyflawnodd y Merino-Romneys gyfartaledd o 22.1 Micron, o’i gymharu â chyfartaledd o 30.3 Micron o’r grŵp rheoli. Gorau po isaf yw’r micron gan ei fod yn golygu bod y gwlân yn fanach ac yn feddalach felly gellir ei ddefnyddio i greu cynnyrch pen uchel, gan gynyddu ei werth. Roedd hyn yn arbennig o drawiadol ac yn llawer gwell na disgwyliadau’r ffermwyr, gan ystyried mai dim ond ŵyn croes cyntaf oeddent.

Darganfyddiad diddorol arall oedd bod pwysau cyfartalog yr ŵyn amlbwrpas yn uwch nag ŵyn y grwpiau rheoli trwy gydol y prosiect. Roedd y pwysau lladd 12% yn drymach na phwysau’r grŵp rheoli, ond nid oedd sgôr y carcas cystal. Cyflawnodd yr ŵyn amlbwrpas radd carcas o O3L (gweddol, braster optimwm) tra bod tri o’r pedwar oen o’r grŵp rheoli wedi cyflawni R3L ychydig yn well (da, braster optimwm). Ond cadarnhaodd adborth gan y ffermwyr fod y carcasau Merino-Romney wedi creu argraff, a bod y cig yn flasus.

Dywedodd Betsan Siencyn, Uwch Swyddog Prosiectau Arloesi Gwynedd Wledig:

“Y cynllun hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru wrth i ni geisio bridio ŵyn gyda safon gwlân llawer gwell heb gyfaddawdu ar ansawdd eu cig. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant, a gellir rhannu’r canfyddiadau gyda ffermwyr ar draws y wlad. Dangoswyd bod y gwlân wedi ychwanegu gwerth, a bod modd creu ffynhonnell ychwanegol o incwm. Mae hyn yn hollbwysig gan fod llawer yn y diwydiant yn wynebu ansicrwydd yn y dyfodol.” 

Roedd dwy fferm yng Ngwynedd yn rhan o’r cynllun ‘Defaid Aml-bwrpas’ – Arwel Jones, Fferm Blaen Cwm, Corwen a John a Gillian Williams, Fferm Parlla Isaf yn Nhywyn. Dywedodd y teulu Williams:

“Mae’n brosiect cyffrous iawn, ac mae’n wych ein bod wedi bod yn rhan ohono. Rydym yn awyddus i gynyddu’r ddiadell o 17 o famogiaid i 300 yn y dyfodol. Y prawf nesaf fydd gweld sut mae’r mamogiaid yn ymdopi yn ystod bridio. O ystyried bod y cynllun wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn, rydym yn obeithiol y gallwn fynd ymlaen i gynhyrchu brîd llawer mwy defnyddiol o ran gwlân a chig, ac o ganlyniad, mae siawns i dderbyn llawer mwy o fuddion.” 

Mae Gwnaed â Gwlân yn brosiect sy’n ceisio gwireddu potensial gwlân Cymreig. Elen Parry yw rheolwr y prosiect:

“Rydym wrth ein bodd bod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Bydd yn golygu y gall ffermwyr Cymru gynhyrchu ŵyn o ansawdd llawer uwch o wlân, a fydd yn ei dro yn cynyddu nifer y defnyddiau terfynol ar gyfer y gwlân, gan gynyddu’r galw a’r pris gobeithio. Prif nod hyn fydd cynyddu’r pris mae ffermwyr yn ei gael am eu gwlân. Mae’n gyfnod pryderus i’r diwydiant gwlân yng Nghymru, a dyna hanfod ein prosiect Gwnaed â Gwlân. Wrth ddatblygu cynlluniau fel hyn gyda bridio defaid amryddawn, mae’n mynd i alluogi’r ymchwil perthnasol i gael ei wneud a sicrhau dyfodol i’r diwydiant pwysig hwn yng Nghymru heb beryglu’r diwydiant cig sydd eisoes mor llwyddiannus yma.” 

 

Gallwch ddarllen adroddiad terfynol y cynllun yma.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU