Data Aberdaron

Prosiect sy'n edrych ar harnesu a dadansoddi data sydd wedi ei gasglu drwy Wi-Fi mynediad agored Aberdaron

Roedd y prosiect yn ceisio dangos sut y caiff data a gasglwyd drwy Wi-Fi mynediad agored digidol yn Aberdaron ei harneisio, ei ddadansoddi a’i ecsbloetio er budd y gymuned a’r busnesau.

Daeth y system Wi-Fi ymlaen am y tro cyntaf yn Aberdaron ar ddechrau mis Mai 2016, ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda busnesau a’r cyhoedd.  O fewn 4 wythnos ar ôl cael ei gosod, roedd 1735 o ddyfeisiadau unigol wedi cysylltu gan lawr lwytho 111Gb o ddata.  Er mwyn mewngofnodi i’r Wi-Fi, mae’n ofynnol i ddefnyddwyr ddarparu cyfeiriad e-bost, a hyd yn hyn cafwyd dros 1000 o gyfeiriadau e-byst.

Roedd 4 elfen i’r Data:

  1. 1. Mapio’r data i nodi sut y mae defnyddwyr y system yn symud o amgylch y pentref, hyd eu harhosiad, amser eu hymweliad, ac unrhyw ymweliadau dro ar ôl tro.
  2. 2. Creu ymgyrchoedd e-farchnata wedi’u targedu. Mae’n bosibl torri i lawr y gronfa ddata e-bost yn erbyn dyddiad yr ymweliad, amlder ac amser aros.
  3. 3. Defnyddio’r data i greu galw y tu allan i’r prif dymor e.e. gŵyl fwyd, cerddoriaeth, bysgota.
  4. 4. Cipio data cyfeillgar i’r farchnad i’r holiadur mynediad.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU