Cyd Ynni – Astudiaeth Dichonoldeb Cyflenwi Busnesau

Astudiaeth dichonoldeb i brofi os yw’n ymarferol ac yn gost-effeithiol i werthu trydan i fusnesau lleol, gan fanteisio ar y ffynhonnell ynni glân sydd o fewn perchnogaeth gymunedol.

Roedd yr astudiaeth yn darganfod pa fodel o werthu sydd fwyaf addas mewn gwahanol sefyllfaoedd, gan gynnwys weiren breifat, clwb ynni lleol.

Mae’r grwpiau o fewn Cyd Ynni eisoes yn berchen nifer o ffynonellau cynhyrchu trydan, yn bennaf tyrbinau hydro. Yn ogystal, maent eisoes yn gwerthu trydan i rai cartrefi yn yr ardal o fewn model ‘clwb ynni lleol’. Nid yw Cyd Ynni yn gwerthu i fusnesau ar hyn o bryd, ond yn awyddus iawn i newid hynny.

Penodwyd cwmni Juno Energy i ymchwilio i’r 3 elfen o’r astudiaeth, sef:
1. Weiren breifat – angen adnabod anghenion cyfarpar a’r costau ar gyfer gosod ‘weiren breifat’ rhwng hydro Afon Goch, (Ynni Padarn Peris) (cyflenwr) ac yr YHA (cwsmer busnes) ynghyd â gosod mesuryddion priodol.
2. Clwb Ynni Lleol i Fusnesau Bethesda – gwirio os yw’n bosib ac os yw’n ymarferol i greu Clwb Ynni Lleol i werthu trydan i fusnesau sy’n gyfagos yn benodol. Gall hwn ddilyn y model sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y Clwb Ynni Lleol domestig. Bydd angen sylw penodol ar faterion sy’n ymwneud â chostau, mesuryddion, gofynion rheoleiddiol/trwyddedol, a chontractau. Yn dilyn hyn, hoffwn dderbyn cyngor ar strwythur brisio ar gyfer y clwb ynni.
3. Rhwydwaith Lleol – ymchwil i’r opsiynau sy’n bodoli ar gyfer cynllun Hydro fydd ar Afon Galedffrwd, (Coed Tir Mynydd/ Ynni Ocar) sydd wrthi’n mynd trwy’r system cynllunio ar hyn o bryd. Mae nifer o fusnesau wedi eu lleoli gyferbyn ar safle’r tyrbin sydd â diddordeb cael eu cyflenwi gan y hydro.

Mae copi o’r astudiaeth ar gael yma.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU