Cronfa Peilota Gwynedd

Mae’r gronfa hwn wedi ei thargedu ar gyfer grwpiau cymunedol yng Ngwynedd i’w galluogi i dreialu gweithgareddau newydd a fydd yn cyfrannu tuag at eu cynaliadwyedd tymor hir ac yn darparu gwasanaethau newydd.

Bydd yr arian ar gael i gymunedau wneud astudiaethau dichonoldeb, cynllun busnes, gweithgareddau, neu i brynu offer i’w hannog i fod yn fwy cynaliadwy. Mae £100,000 wedi cael ei roi yn y gronfa yma ac mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am symiau hyd at £10,000.

Ar hyn o bryd mae pedwar rownd o’r Gronfa wedi bod, ac rydym wedi helpu 17 o grwpiau cymunedol drwy glustnodi arian o’r gronfa iddynt er mwyn treialu gweithgaredd newydd. Dyma engreifftiau o grwpiau mae’r gronfa wedi helpu hyd yn hyn:

  • Ariannu cwmni i greu Cynllun Busnes i Tafarn yr Heliwr, Nefyn.
  • Prynu Offer technolegol i Siop Griffiths, Penygroes er mwyn rhedeg gweithdai technoleg i blant ifanc.
  • Astudiaethau Dichonoldeb i Meithrinfa Maesywaun, GISDA, Neuadd Mynytho a mwy.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU