Archwilio'r potensial ar gyfer mentrau cymunedol yng Ngwynedd
Mae Community Catalysts yn gwmni sy’n cefnogi datblygiad mentrau cynaliadwy lleol. Maent yn gweithio ag unigolion a chymunedau i ddefnyddio’u sgiliau i ddarparu digon o ddewis o wasanaethau iechyd a gofal lleol o safon uchel wedi’u personoli, ar gyfer bobl leol sydd eisiau cymorth i fyw eu bywyd ffordd eu hunain.
Mae Cyngor Gwynedd wedi adnabod bod prinder o wasanaethau fel hyn yn lleol ond yn awyddus i allu darparu rhagor o wasanaethau iechyd a gofal, yn ymateb i’r her o ddiffyg gofal yn y cartref sydd ar gael.
Bydd yr astudiaeth hon yn galluogi unigolion sy’n gweithio yn y sector gofal adnabod cyfleoedd i osod amodau tecach i’w gwaith, e.e. gweithio oriau mwy cymdeithasol, darparu gwasanaethau sy’n adlewyrchu eu cryfderau personol ac ennill arian ar lefel uwch.
Mae’r astudiaeth ar gael yma.