Byw a Bod Digidol (Cydweithredol Gwynedd a Môn)

Dangos bod gan Wynedd a Môn gyfleoedd gyrfa o ansawdd da yn y sector TGCh, a chyfleoedd byw ardderchog.

Roedd  y prosiect yn darparu proffil uchel a chyfle dyheadol i bobl ifanc sydd â sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i brofi bywyd a gwaith yng Ngwynedd ac Ynys Môn; a dweud wrth y byd am y peth.

Roedd y prosiect hwn yn adeiladu ar y prosiect Byw a Bod (Digidol) a gyflenwyd gan Arloesi Gwynedd Wledig yn 2016.

Un her allweddol y mae cwmnïau TGCh yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn ei hwynebu yw recriwtio gweithwyr addas i weithio yn y sector, ac mae rhai o’r cwmnïau yn ystyried adleoli er mwyn  cael gafael ar weithwyr. Mae’r her hon yn cyd-fynd â strategaeth cynllun Datblygu Lleol Arloesi gan fod cadw pobl ifanc yn yr ardal yn flaenoriaeth allweddol.

Felly mae Arloesi wedi gweithio gyda Fforwm Gwynedd Ddigidol, sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgolion Aberystwyth a Bangor a Chyngor Gwynedd ac rydym wedi bod mewn cysylltiad â’r adran economaidd yng Nghyngor Ynys Môn er mwyn datblygu’r prosiect peilot hwn. Bydd y prosiect yn ceisio cyflawni’r canlynol:

Dylid pwysleisio mai’r gynulleidfa darged ar gyfer y prosiect hwn yw pobl ifanc 17 – 25 oed yng Ngwynedd ac Ynys Môn sydd yn gwneud dewisiadau gyrfa, yn hytrach na phobl o’r tu allan.

Recriwtio busnesau

Gwahoddwyd busnesau i gymryd rhan trwy broses alwad agored.   Roedd yr Alwad Agored yn annog diddordeb o 7 busnes Twf, a barwyd wedyn gyda 9 o ymgeiswyr o safon uchel a oedd yn astudio pynciau STEM, i gymryd rhan yn y peilot 10 wythnos.

Recriwtio Myfyrwyr

Anogwyd myfyrwyr i wneud cais yn dilyn hysbyseb a roddwyd ar lleol. net a rhannwyd y cyswllt yn eang ar gyfryngau cymdeithasol, mewn colegau lleol, a phrifysgolion ar draws Cymru. Cynhaliwyd recriwtio busnesau a myfyrwyr yn ystod mis Ebrill 2017 gyda dyddiad cychwyn y lleoliadau ar 26ain Mehefin.

Sesiynau Hacio

Roedd y tri diwrnod cyntaf yn ddigwyddiad ar arddull ‘sesiynau hacio lle’r oedd gan yr holl dîm o fusnesau / myfyrwyr / AM gyfle i ddod i adnabod ei gilydd, dysgu am y busnesau ac, yn bwysicaf oll, sicrhau bod y myfyrwyr yn deall y briff yn wirioneddol, a sicrhau bod Gwynedd ac Ynys Môn yn cael eu gweld fel lle gwych i fyw a gweithio.

Cymerodd yr holl fyfyrwyr ran mewn rhannu eu straeon trwy gyfryngau cymdeithasol yn wythnosol.

Profiad Bywyd 

Cymerodd y myfyrwyr ran mewn nifer o weithgareddau, i ddangos pa mor wych yw’r ardal i fyw ynddi. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys taith gerdded i fyny’r Wyddfa, padl-fyrddio yn Llanddwyn a dringo.

Profiad Gwaith

Buont hefyd yn gweithio gyda’u cyflogwyr, i nodi’r cyfleoedd recriwtio a ragwelir dros y 5 mlynedd nesaf, pa gyfleoedd y byddai’r ardaloedd yn eu cynnig, beth oedd y cyflogwyr yn chwilio amdano wrth recriwtio, a pha sgiliau yr oeddent yn chwilio amdanynt wrth recriwtio.

Gwaith Grŵp

Penododd Arloesi Geraint Hughes fel mentor i’r grŵp trwy gydol y 10 wythnos. Cyfarfu’r grŵp bob prynhawn Llun i rannu eu profiadau a chynllunio ar gyfer y digwyddiad terfynol.   Yr her a osodwyd i’r grwpiau oedd “Mae Cwmnïau TGCh yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn ei chael hi’n anodd recriwtio sgiliau lleol, ac mae pobl ifanc â chymwysterau TGCh yn honni nad oes llawer o gyfleoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Sut y gall y ddwy ochr fod yn fwy ymwybodol o’i gilydd?”

Rhannu Gwybodaeth a Hyrwyddo

  • Trefnwyd a chynhaliwyd digwyddiad EXPO Byw a Bod i rannu gwybodaeth yng nghanolfan gelfyddydau ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Bangor, sef Pontio, ar Fedi’r 1af am 10am a 1pm.
  • Cafodd y digwyddiad ei hwyluso gan y grŵp, a chawsant gyfleoedd i rannu eu profiadau a’r gwersi a ddysgwyd gyda busnesau a sefydliadau eraill yn yr ardal.
  • Cofrestrodd 60 yn y digwyddiad bright link/ gyda 46 o bobl yn mynychu’r diwrnod.
  • Cafodd y digwyddiad ei ffrydio’n fyw ar FB AM ac AGW.
  • Dilynodd y Cyfryngau Cymdeithasol straeon yr unigolion trwy gydol y lleoliad 10 wythnos
  • Crëwyd sawl ffilm fer hefyd i godi’r proffil a chyfleu’r neges.
  • Hyrwyddwyd y prosiect hefyd trwy gyfryngau cyhoeddus mewn papurau newydd lleol a vlogs.

Llwyddiant y Prosiect

  • Crëwyd 2 swydd llawn amser o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect. Derbyniodd un o’r myfyrwyr swydd gyda CADARN Consulting, a sicrhaodd y llall brentisiaeth gyda Horizon.
  • Sicrhaodd 1 myfyriwr swydd amser llawn fel peiriannydd yn Denis Ferranti ym Mangor.
  • Crëwyd cyfeiriadur busnesau twf a dangoswyd y gellid creu 25 o swyddi â thâl uchel posibl yng Ngwynedd ac Ynys Môn dros y 5 mlynedd nesaf

Adroddiad Diwedd Byw a Bod Rhag 2021

Fideos

-

-

-

-

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU