Bach a Sych – Astudiaeth Dichonoldeb

Astudiaeth Dichonoldeb i weld os y gall gwastraff fferm gael ei reoli yn defnyddio Treuliwr Anaerobig Sych

Noda adroddiad a ysgrifennwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) yr her a wynebir gan lawer o ffermwyr o ran rheoli gwastraff wyneb a ddaw o’u da byw. Mae’r gwastraff mewn perygl o fynd i mewn i’r system ddŵr gan lygru ein hafonydd a llynnoedd. Cysylltodd APCE ag Arloesi Gwynedd Wledig, a sefydlodd gyfarfod seminar gyda phartïon â diddordeb i drafod yr hyn a oedd yn bosibl.

Nod y prosiect yma oedd creu Astudiaeth Dichonoldeb i ganfod â all gwastraff fferm megis tail fferm a deunyddiau organig eraill gael eu rheoli’n gynaliadwy drwy eu defnyddio i gynhyrchu bionwy (tanwydd) mewn Treuliwr Anaerobig Sych, a chreu sgil-gynhyrchion defnyddiol – yn enwedig gwrtaith? A yw system swp o’r fath yn ddichonadwy, a sut mae’n cyd-fynd ag arferion ffermio cyfredol neu addasadwy?  A yw’n debygol o arwain at well rheoli maetholion a llai o lygredd gwasgaredig?

Roedd yr astudiaeth yn ymchwilio i mewn i’r opsiynau ar gyfer ateb treuliwr micro sych ar gyfer buchesi eidion yr ucheldir – gan ymgorffori deunyddiau fel rhedyn, gwellt y gweunydd a brwyn meddal. Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddwy fferm a redir gan denantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Trwy astudio achos gwirioneddol, yn hytrach na senarios damcaniaethol, y disgwyl yw y bydd yr adroddiad a gomisiynwyd yn dangos o dan ba ddulliau ac opsiynau y gall treuliwr sych micro weithio i reoli gwastraff a maetholion a chynhyrchu ynni carbon isel.

Mae’r adroddiad terfynol ar gael yma.

Fideos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU