Awyr Dywyll Gwynedd

Dangos bod yna werth economaidd i'r statws Awyr Dywyll, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau brig.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ennill statws Awyr Dywyll Ryngwladol – un o ddim ond 11 yn fyd-eang.

Golyga hyn mai Cymru bellach yw’r wlad sydd â’r gyfran uchaf o’i thiriogaeth yn gallu brolio awyr nos gyda statws gwarchodedig o tua 18%. Rhoddir y statws a ddyfarnwyd i Eryri gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol, i leoedd sydd wedi profi bod ansawdd eu hawyr nos yn rhagorol a bod ymdrechion go iawn yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau.

Nod y prosiect hwn yw ymgysylltu’n rhagweithiol â’r sector twristiaeth er mwyn dangos sut y gellir pecynnu twristiaeth astro a’i chyflwyno i dwristiaid. Fel gyda phrosiectau eraill Leader, y nod yw gweithio’n ddwys gyda nifer fach o fusnesau, cyn rhannu’r gwersi a ddysgwyd gyda chynulleidfa ehangach.

Trwy broses alwad agored, recriwtiodd Arloesi Gwynedd Wledig 14 o fusnesau twristiaeth a oedd yn awyddus i gymryd rhan yn y treial. Roedd y meini prawf dethol yn cynnwys lledaeniad daearyddol da ar draws y Parc Cenedlaethol, detholiad eang o ddarparwyr llety, parodrwydd i gyfrannu at ddigwyddiadau a chasglu adborth gan gwsmeriaid.

Mynychodd y busnesau a ddetholwyd weithdai lle cawsant drosolwg o ddynodiad Awyr Dywyll a pham mae Eryri wedi’i ddewis. Dangoswyd hefyd sut y gallent fanteisio arno a rhoddwyd enghreifftiau o lefydd eraill, megis Northumberland.

Darparwyd offer a deunyddiau i bob busnes i’w defnyddio gan gwsmeriaid. Ar ôl i’r treial gael ei chwblhau, bydd Arloesi Gwynedd Wledig yn rhannu’r offer fel bo’r angen gyda busnesau eraill nad oeddent yn rhan o’r prosiect.

Uchafbwynt y prosiect oedd digwyddiad gwylio sêra ddenodd 50 o fusnesau. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Awyr Dywyll Cymru a rhoddodd gipolwg ar sut y dylid trefnu a marchnata digwyddiad. Rydym yn ymwybodol bod llawer o’r rhai a fynychodd yn bwriadu trefnu eu digwyddiadau eu hunain.

Fideos

Gweithdy Plas Tan-y-Bwlch -

Gweithdy Llyn Gwynant -

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU