Prosiect Strydoedd Unigryw – Galwad Agored
Mae’r Stryd Fawr wedi bod yn ganolbwynt i gymunedau ledled Cymru, drwy greu swyddi, meithrin busnesau bach a gyrru economïau lleol a rhanbarthol. Erbyn heddiw mae’r stryd fawr yn wynebu heriau yn sgil y cynnydd mewn siopa ar lein, canolfannau siopa’ mawr ac archfarchnadoedd. Mae’r uchod wedi cael effaith negyddol ar fasnach y Stryd Fawr a hynny yn ei dro wedi cyfrannu tuag at ddirywiad yn ein canol trefi.
Erbyn heddiw mae defnyddwyr yn chwilio am ystod o brofiadau ar y Stryd Fawr, o siopa i hamdden i adloniant i wasanaethau iechyd; erbyn heddiw dylai’r Stryd Fawr fod yn cynnig profiad unigryw na all pobl fynd i unrhyw le arall i’w gael.
Mae dirywiad y Stryd Fawr yng Ngwynedd yn bryder i nifer o bobl, beth am geisio taclo’r her hwnnw gan ddefnyddio datrysiadau creadigol!
HER AGW
Mae AGW yn chwilio am 3 cymuned i gydweithio a hwy er mwyn treialu dulliau newydd ac arloesol fydd yn:
– Cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r Stryd, ac yn sgil hynny i’r ardal yn ehangach
– Cynyddu lefel o wariant yn lleol
Os ydych chi a diddordeb lawrlwythwch y dogfennau isod: