Peiriant Fendio Cynnyrch Lleol

Peiriant Fendio Cynnyrch Lleol

 

Pan mae rhywun yn meddwl am beiriant fendio coca cola a siocled sy’n dod i’r meddwl fel arfer yn hytrach na bara brith a theisennau cri. Ond, mae prosiect arloesol ym Mhen Llŷn wedi edrych ar ddefnyddio’r dull yma o werthu hwylus ar gyfer cynnyrch lleol.

Gyda chig moch Oinc Oink, llefrith Llaethdy Llŷn, a sudd afal Pant Du doedd dim o’r cynnyrch ym mheiriant fendio newydd maes gwersylla Nant y Big ger Abersoch wedi teithio’n bell iawn. Am y tro cyntaf eleni roedd gwersyllwyr yno yn gallu prynu a mwynhau’r cynnyrch lleol yma yn ogystal â bara brith a chacennau eraill ar unrhyw adeg o’r dydd.

Pwrpas y prosiect oedd rhoi cyfle i gynhyrchwyr werthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn modd arloesol a chost-effeithlon. Gosodwyd y peiriant yn y maes gwersylla gan nad oedd siop cyfagos, ond yn fwy na hynny gan bod  ymwelwyr yn dod a bwyd gyda nhw yn hytrach na gwario yn lleol. Gyda’r peiriant fendio roedd ymwelwyr yn cael cyfle hefyd i flasu cynnyrch lleol a mynd a danteithion blasus Cymreig adra gyda nhw.

Mae Rhys Gwilym yn Uwch Swyddog Prosiect gyda Arolesi Gwyned Wledig, dywedodd: “Mae nifer o bentrefi yng Ngwynedd wedi colli eu siop fach leol, sy’n golygu bod pobl yn gorfod teithio’n bellach i’r siop agosaf. Drwy roi’r peiriant fendio yn y gymuned bydd mynediad haws at gynnyrch fel llefrith, wyau, cig moch a selsig – a phob dim yn lleol.”

Mae cyfle drwy AGW i leoli peiriant fendio cynnyrch lleol mewn mwy o gymunedau yng Ngwynedd – i wybod mwy neu i wneud cais cysylltwch gyda Rhys ar rhys@mentermon.com neu 01766 514 057.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU