Llwybr Cysawd Eryri Wedi Lansio

Llwybr Cysawd Eryri Wedi Lansio!

 

Bydd yr haul yn osodiad parhaol ym Mlaenau Ffestiniog o hyn ymlaen diolch i Lwybr Cysawd Eryri, oedd yn lansio yng Ngwesty’r Oakley Arms, Maentwrog ar Ddydd Iau 29ain o Dachwedd.

Wedi ei gyllido gan Arloesi Gwynedd Wledig a Chronfa Partneriaeth Eryri mae Llwybr Cysawd Eryri wedi ei greu gan blant lleol ac yr artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch gyda’r brif nod o amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. Bydd y planedau yn cael eu gosod mewn busnesau ar draws Gwynedd gyda’r haul yn Siop Antur ‘Stiniog ar y Stryd Fawr ym Mlaenau Ffestiniog, gyda phob darn o gelf yn dysgu ymwelwyr mwy am y blaned arbennig yna. Hefyd fel llwybr rhyngblanedol gall pobl ddod i ddeall maint cymhareb Cysawd yr Haul.

Yn ogystal a dysgu mwy am y llwybr cafwyd noson ddiddorol iawn yng Ngwesty’r Oakley Arms gyda nifer o siaradwyr gwadd fel Jo Hinchliffe, Swyddog Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri, sesiwn seryddiaeth yng nghwmni Dark Sky Wales a gweithdy ‘Mars Drop’ gyda Amelia Stars. Yn anffodus oherwydd y tywydd doedd dim posib mynd tu allan gyda’r telesgop y tro yma ond cafwyd sgwrs seryddiaeth wybodus iawn gan Martin. Roedd Amelia yn profi ein sgiliau dylunio gyda ei gweithdy ‘Mars Drop’. Yr her oedd dylunio a gwneud landiwr I amddiffyn ŵy rhag torri pan yn cael ei ollwng o uchder. Roedd yr ŵy yn cynrychioli y cyfarpar bregus sy’n cael ei ollwng ar y blaned Mawrth.

Esboniodd Rachel Roberts o Arloesi Gwynedd Wledig: “Gall y statws Awyr Dywyll greu budd economaidd gwych yn dilyn y diddordeb cynyddol sydd mewn seryddiaeth. Mae astro-dwristiaeth wedi arwain at gynnydd yn y nifer o bobl sy’n ymweld ag Eryri yn ystod y misoedd sydd y tu allan i’r tymor twristiaeth arferol. Bydd y llwybr yma yn ychwanegu gwerth i farchnad sydd eisoes yn ffynnu.”

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn un o raglenni LEADER Menter Môn sy’n ceisio atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu economi Gwynedd drwy beilota mentrau newydd.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd a Cronfa Partneriaeth Eryri.

Am fwy o wybodaeth ewch I wefan arbennig y prosiect  https://cysawderyri.cymru/

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01766 514 057

Arloesi Gwynedd Wledig, 146 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU