Dod i Nabod – Rhys Gwilym
Yn y rhifyn yma o’r newyddlen cawn gyfle i ddod i nabod Rhys Gwilym, sef un o Uwch Swyddogion Prosiect newydd Arloesi Gwynedd Wledig. Mi fydd Rhys yn wyneb cyfarwydd i rai ohonoch fel ein cyn Swyddog Gweinyddol.
Beth oeddat ti’n neud cyn ymuno ac Arloesi?
Astudio busnes ym Mhrifysgol Aberyswtyth. Mi wnes i raddio mis Gorffennaf 2018 a wedyn mynd i weithio yn bragdy Cwrw Llyn dros wyliau’r haf, cyn cychwyn hefo Arloesi dechrau mis Medi 2018 fel Swyddog Gweinyddol.
Pa brosiectau wyt ti’n weithio ar ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar prosiect Ffiws sef Gofod Gwneud fydd wedi cael ei leoli ar Stryd Fawr. Mae hwn yn brosiect cyffrous a dwi’n edrych ymlaen i’r gofod fod ar agor i bawb gael ei ddefnyddio. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu cymuned o wneuthurwyr drwy ddefnyddio siop wag ar stryd fawr yng Ngwynedd. Prosiect arall dwi’n weithio arno ydi prosiect Ceir Cymunedol Trydanol. Mae Carwyn a Carwen wedi cyrraedd, ac mewn cwpl o wythnosau mi fydd un yn mynd i Bethesda a’r llall yn mynd i Abergynolwyn i gael eu defnyddio fel ceir cymunedol. Mi fydd y ceir yn y cymunedau am flwyddyn a dwi’n edrych ymlaen i gael gweld sut y bydd y ceir yn cael eu defnyddio gan aelodau’r gymuned.
Oes gen ti unrhyw ddiddordebau?
Dwi’n hoffi mynd i gerdded, coginio (bwyd Mexican fel arfer), gwrando ar bach o gerddoriaeth, wrth fy modd hefo ffilms yn enwedig rhai Marvel, a chymdeithasu.
Os bysa chdi’n cael dewis mynd am swper gyda 5 person, yn fyw neu’n farw, pwy fysa ti’n ddewis?
Louis Theroux, Captain America, Liam Gallagher, Lee Mack, David Attenborough.